Government launches Consultation on Juries in Wales/ Y Llywodraeth yn lansio ymgynghoriad ar reithgorau yng nghymru
19 Dec 2005
Any party or witness in a trial held in Wales can choose to speak either Welsh or English. However, because of the system of random selection of jurors, there is currently no means of ensuring that all the members of a jury in a criminal trial in Wales can speak Welsh as well as English.
The consultation paper invites views from the public and organisations on whether criminal trials in Wales should be capable of being heard, in appropriate cases, by a jury that is able to speak both languages - a "bilingual" jury. The Government has not yet taken a view on whether it would be right in principle to do this and will not consider its position further until the consultation period is over.
Trials where Welsh may be used are currently listed before a Welsh-speaking judge wherever possible.
The consultation paper is aimed at the public and at relevant organisations, including the Council of Her Majesty's Circuit Judges, the Criminal Bar Association, the Crown Prosecution Service and a number in Wales.
A ddylai fod yn bosibl i reithgor yng Nghymru allu siarad Cymraeg yn ogystal Saesneg? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd yn dilyn cyhoeddi papur ymgynghori heddiw o'r enw: Defnyddio rheithgorau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) mewn rhai treialon troseddol yng Nghymru.
Gall unrhyw barti neu dyst mewn treial a gynhelir yng Nghymru ddewis siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg. Fodd bynnag, oherwydd y drefn o ddethol rheithwyr ar hap, does dim modd ar hyn o bryd o sicrhau bod pob aelod ar reithgor mewn treial troseddol yng Nghymru'n gallu siarad Cymraeg a Saesneg.
Mae'r papur ymgynghori'n gwahodd y cyhoedd a mudiadau i roi eu barn ar y cwestiwn a ddylid, mewn achosion priodol, allu cynnal treialon troseddol yng Nghymru gerbron rheithgor sy'n gallu siarad y ddwy iaith - rheithgor "dwyieithog". Nid yw'r Llywodraeth hyd yma wedi dod i gasgliad ynghylch a fyddai'n iawn gwneud hyn mewn egwyddor ac ni fydd yn ystyried y mater ymhellach hyd nes y daw'r cyfnod ymgynghori i ben.
Mae'r treialon lle mae'n bosibl y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn cael eu rhestru ar hyn o bryd gerbron barnwr sy'n siarad Cymraeg, lle bynnag y bo modd.
Anelir y papur ymgynghori at y cyhoedd ac at fudiadau perthnasol gan gynnwys Cyngor Barnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi, Cymdeithas y Bar Troseddol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a nifer yng Nghymru.